Ynglŷn â Ni>Yr Uned Gymraeg>Cangen Met Caerdydd o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cangen Met Caerdydd o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

​Mae Cangen Met Caerdydd yn gymdeithas o fyfyrwyr a staff sy'n awyddus i hybu addysg a chyfleoedd cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr a staff ac sy'n cydweithio'n agos gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau hyn.

Y Coleg Cymraeg sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Mae’r Coleg yn cyflawni hyn drwy weithio yn effeithiol mewn partneriaeth gyda phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i adeiladu cyfundrefn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg gynhwysol o’r radd flaenaf.

Ymaelodi

Mae cannoedd o fyfyrwyr a nifer sylweddol o staff ar draws y Brifysgol yn aelodau o'r Gangen a mae cyfle hefyd i unrhyw fyfyriwr ddod yn aelod. Am fwy o wybodaeth am y Coleg neu i ddod yn aelod dilynwch y ddolen isod:

http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/ymaelodi/colegcymraeg/

Drwy ddod yn aelod cewch y canlynol:

  • Gwybodaeth am ddigwyddiadau cymdeithasol y Gangen gan gynnwys Cinio Blynyddol a dathliadau Gŵyl Dewi
  • Gwybodaeth am raglenni hyfforddiant a datblygiad staff Cenedlaethol
  • Gwybodaeth am ddatblygiadau Cenedlaethol
  • Cynnig am Dystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg
  • Derbyn Ysgoloriaeth gwerth £1500!

 

Ysgoloriaeth Cymhelliant (£1500)

Mae gan y Met nifer o gyrsiau lle mae bosib astudio rhan o'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma rhestr o'r cyrsiau hynny: http://astudio.cardiffmet.ac.uk/cyrsiau-israddedig/

Er mwyn derbyn yr Ysgoloriaeth mae'n rhaid i chi astudio o leiaf 1/3 o'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Os wyt ti ar un o'r cyrsiau hyn ac am dderbyn y £1500 (hyd yn oed os nad wyt ti wedi dewis astudio yn Gymraeg eto), yna cysyllta â Daniel Tiplady (Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg) dtiplady@cardiffmet.ac.uk

Tystysgrif Sgiliau Iaith

Mae'r Dystysgrif wedi ei datblygu er mwyn galluogi myfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru i ennill tystysgrif sy'n dangos tystiolaeth o'u sgiliau iaith, a'u gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae llawer o gyflogwyr wedi datgan eu cefnogaeth i'r Dystysgrif, gan gynnwys ITV Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae'r brifysgol yn cynnig sesiynau yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr er mwyn eu paratoi nhw ar gyfer y Dystysgrif ac i wella eu sgiliau cyfrwng Cymraeg.

Am fwy o wybodaeth am y dystysgrif neu i gofrestru ewch i: https://colegcymraeg.ac.uk/myfyrwyr/prifysgol/tystysgrif-sgiliau-iaith/

Cysylltu

Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau'r Gangen neu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cysylltwch â Daniel Tiplady, Pennaeth yr Uned Gymraeg a Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg yn y Met.

Daniel Tiplady

dtiplady@cardiffmet.ac.uk